dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TORTILLA CYW IÂR A CHÊL

TORTILLA CYW IÂR A CHÊL

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Stir fry Cêl:
2 llwy fwrdd olew hadau pwmpen
7 owns cêl - torri yn ddarnau
2 winwns coch - wedi ei sleisio
10 owns llysiau stir fry
pinsiad da pupur du

Tortilla:
4 brest cyw iâr - torri’n giwbiau
olew olewydd
pinsiad da pupur du
1 gwydr gwin coch
2 llwy fwrdd olew hadau pwmpen
7 owns cêl - torri yn ddarnau
2 winwns coch - wedi ei sleisio
10 owns llysiau stir fry
8 madarch - wedi ei sleisio
6 owns Chorizo neu ham Caerfyrddin - wedi ei sleisio
4 llwy fwrdd saws chili melys
180 g nwdls
8 tortilla mawr
DULL
Stir fry Cêl:

Cynhesu’r hadau pwmpen olew mewn wok neu badell fawr.

Ychwanegu’r cêl a’i ffrio. Ychwanegu’r winwns a’r llysiau stir fry i’r wok gydag ychydig o bupur du a ffrio am ychydig o funudau.

Tynnu’r badell o’r gwres a gosod y cêl mewn bowlen a’i weini.


Tortilla:

Rhoi’r cyw iâr mewn padell ffrio gydag ychydig o olew olewydd. Ffrio nes wedi coginio ac ychwanegu pupur du yn unig.

Rhoi’r olew hadau pwmpen mewn wok neu badell a’i chynhesu .

Pan mae’r olew yn mygu ychwanegu’r cêl, winwns ac yna’r llysiau stir fry a’r madarch.

Ychwanegu’r chorizo a’r saws chili melys a’i adael i leihau am ychydig.

Ychwanegu’r gwin coch i’r cyw iâr er mwyn rhyddhau’r blasau ac yna trosglwyddo’r cig i’r llysiau stir fry yn y wok.

Ychwanegu nwdls i’r wok a’u cynhesu am funud neu ddau.

Rhoi’r tortillas yn y ficrodon am 20 eiliad i dwymo ac i feddalu.

Rhoi rhyw lwyed o’r llysiau a’r cyw iâr yng nghanol y tortilla. Ychwanegu tamaid o saws chili a phlygu’r tortilla o gwmpas y cynhwysion.

Mae modd rhoi cêl ffres ar ben y cynhwysion er mwyn ychwanegu ‘crunch’ i’r pryd.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY