dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BYRGERS LLYSIEUOL GYDA SALSA TOMATO A MANGO

BYRGERS LLYSIEUOL GYDA SALSA TOMATO A MANGO

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

Y byrgers:
2 tun o chickpeas (400g yr un) - gwaredu’r dwr a’u glanhau
1 winwnsyn - torri’n fras
Dyrned persli
1 lemwn - croen a sudd yn unig
2 llwy fwrdd cumin
2 llwy fwrdd coriander
Pinsiad halen a phupur
6 llwy fwrdd blawd plaen
4 llwy fwrdd olew yr olewydd

Y salsa:
1 llwy fwrdd olew sesame
2 llwy fwrdd olew yr olewydd
4 tomato bach - torri’n fan
Hanner mango - gwaredu’r croen a’u giwbio fan
2 llwy fwrdd coriander - wedi rhwygo
Hanner leim - sudd yn unig
halen

I weini:
4 rôl bara
sleisys o winwns coch, tomato a chiwcymbr
DULL
Y byrgers:

Rhoi’r chickpeas, winwns, persli, lemwn, cumin a’r coriander i mewn i brosesydd bwyd. Ychwanegu halen a phupur yn ôl y galw, a’i brosesu eto tan yn bast trwchus.

Rhoi'r past ar fwrdd wedi’i ysgeintio â blawd a’u siapio fel byrgers, gan ddefnyddio mwy o flawd yn ôl y gofyn.

Cynhesu’r olew mewn padell fawr ddi-lynnu ac yna ffrio’r byrgers am ryw 2-3 munud bob ochr.
Y salsa:

Rhoi’r holl gynhwysion mewn powlen fawr a’i gymysgu’n dda. Ychwanegu halen a phupur yn ôl y galw.

I’w weini - mewn rôl bara gyda sleisys o winwns coch, tomato a chiwcymbr gyda llwyed o salsa, iogwrt neu unrhyw relish o’ch dewis.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY