DULL
Cynheswch y dwr mewn sosban a choginiwch y garlleg, sinsir, siwgr, saws soy a'r saws Thai dros wres uchel am bum munud. Yna ychwanegwch sudd un leim, un chilli goch, neu ddigon yn ôl eich dewis personol. I dewhau'r saws, cymysgwch lwyaid dda o flawd india corn gyda dwr i greu pâst tenau, yna'i arllwys yn raddol i'r saws nes bod y saws yn tewhau. I roi lliw a mwy o flas i'r saws, ychwanegwch shibwns a goriander wedi eu torri'n fân ar y funud olaf i'r saws. Tynnwch y cig allan o grafangau'r cranc a'i gymysgu gyda gweddill y cig meddal. Ar ôl paratoi'r cranc, arllwyswch y saws dros y cig a'i bobi mewn ffwrn boeth am ddeg munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley