dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
FRITTATA CENNIN

FRITTATA CENNIN

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 6

CYNHWYSION

30 ml olew yr olewydd
1 mawr pupur coch - wedi torri’n stripedu
½-1 llwy de cwmin - wedi’i dostio
450 g cennin - wedi’u sleisio
Pinsiad halen a phupur
150 g dail sbigoglys
3 llwy fwrdd cnau pîn
5 mawr wyau
1 llwy fwrdd basil ffres - torri’n fras
1 llwy fwrdd persli fflat - torri’n fras

I weini:
Dyrned berw dŵr
50 g caws parmesan
DULL
Cynhesu’r olew mewn padell ffrio.

Ffrio’r pupur dros wres cymedrol am 6-8 munud, hyd nes iddynt feddalu a brownio.

Ychwanegu hanner y cwmin a’i goginio am 1-2 o funudau.

Ychwanegu’r cennin, gosod y caead dros hanner y badell a’i goginio am 5 munud hyd nes i’r cennin feddalu.

Sesno’r frittata yn ôl eich blas.

Ychwanegu’r sbigoglys a gorchuddio’r cyfan gyda’r caead er mwyn i’r dail fynd yn llipa (3-4 munud) ac yna ei gymysgu’n dda.

Ychwanegu’r cnau i’r gymysgedd.

Mewn powlen, curo’r wyau gyda’r halen, pupur, gweddill y cwmin, basil a’r persli.

Ychwanegu’r wyau i’r badell gan orchuddio’r llysiau.

Coginio dros wres isel hyd nes i waelod y frittata setio ac yn lliw euraidd.

Rhoi plât ar ben y badell a’i droi ben i waered, yna rhoi’r badell wag yn ôl ar y tân a gadael y ffritatta lithro o’r plât yn ôl i mewn i’r badell, a choginio’r ochr arall hyd nes ei fod yn lliw euraidd.

I weini:
Torri’r frittata yn ddarnau triongl a’i weini gyda dyrned o berw dŵr a chaws parmesan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY