dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
DRAENOG Y MÔR, FFENIGL IFANC A RISOTTO

DRAENOG Y MÔR, FFENIGL IFANC A RISOTTO

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 1

CYNHWYSION

Y risotto:
30 gram reis Arborio
2 llwy fwrdd cennin syfi - wedi malu’n fan
Pinsiad pupur a halen
10 g caws Parmesan - wedi ei gratio
20 ml hufen

Y ffenigl:
3 darn - ffenigl bach
25 g menyn
1 llwy fwrdd dil - wedi ei falu’n fan

Draenog y môr:
1 llwy fwrdd olew llysiau
1 darn draenog y môr
Pinsiad halen a phupur
DULL
Y risotto:

Rhoi’r reis mewn sosban, ychwanegu dŵr a dod ar gyfan i’r berw a’i goginio am ryw 20 munud hyd nes bod y reis yn feddal.

Ychwanegu’r cennin syfi a’i gymysgu’n dda yna ychwanegu pinsiad o bupur a halen

Ychwanegu’r caws at y reis hyd nes bod y caws yn toddi.

Ychwanegu’r hufen at y reis a’i gymysgu’n dda.

Y ffenigl:

Rhoi’r ffenigl mewn sosban ac ychwanegu’r menyn, ei roi dros wres cymedrol a meddalu’r ffenigl.

Ychwanegu’r dil at y ffenigl a’i gymysgu’n dda a phinsiad o bupur a halen i’w flasu.

Draenog y môr:

Rhoi’r olew mewn padell ffrio a’i gynhesu. Rhoi pupur a halen ar ddwy ochr y pysgodyn a’i ffrio yn yr olew am oddeutu 4 munud bob ochr.

I’w weini - rhoi’r risotto yng nghanol y plât, y pysgodyn ar ei ben, yna’r ffenigl ar ben y cyfan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY