DULL
Curo’r golwythion ychydig cyn ychwanegu pinsiad o halen a phupur
Cynhesu 1 llwy de o olew mewn gridyll a choginio’r golwythion am ryw 4 munud bob ochr.
Mewn padell arall, cynhesu gweddill yr olew a ffrio’r winwns a’r garlleg hyd nes ydynt feddalu.
Ychwanegu’r piwrî, tun o domatos, stoc a’r ffa cannellini.
Stwnshio ychydig o’r ffa a’u cynhesu am ychydig o funudau.
Ychwanegu’r persli cyn gweini.
I’w weini - Rhoi’r gymysgedd ffa yng nghanol y plât gyda 2 golwyth ar ben y ffa ar bob plât.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley