dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GWRD (SQUASH) Â SGLEIN OREN MELYS

GWRD (SQUASH) Â SGLEIN OREN MELYS

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 gwrd(butternut squash) - heb y croen, wedi’i giwbio
50 g menyn
50 ml olew
1 darn 2 modfedd sinsir ffres - heb y croen
1 chili - torri’n stribedi
½ llwy de nytmeg
1 oren - croen a sudd
1 llwy fwrdd siwgr
dyrned saets ffres - torri’n stribedi tenau
DULL
Coginio’r gwrd mewn sosban o ddŵr berw hallt am 5 munud.

Toddi’r menyn gyda’r olew a choginio’r sinsir, chili, nytmeg a chroen yr oren am funud.

Ychwanegu’r siwgr i’r sosban, yna’r sudd oren a dod a’r cyfan i’r berw a thewhau ychydig.

Hidlo’r gwrd, a’i ychwanegu i’r sosban gan orchuddio’r gwrd yn y saws.

Ychwanegu’r saets a’i gymysgu’n dda cyn gweini.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY