dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CASERÔL LLYSIAU

CASERÔL LLYSIAU

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 moron – tynnu’r croen a’u ciwbio
4 pannas - tynnu’r croen a’u ciwbio
3 llwy fwrdd menyn heb halen
1 winwnsyn - wedi’i giwbio’n fân
1 llwy fwrdd blawd plaen
1 tun llaeth cneuen coco
Pinsiad halen
50 g caws ee cheddar - wedi’i gratio
DULL
Rhoi’r moron mewn sosban o ddŵr berw gyda phinsiad o halen, a’i berwi nes yn feddal. Tynnu’r moron allan a rhoi i naill ochr gan gadw’r dwr.

Rhoi’r pannas yn y sosban o ddwr, a’i berwi nes yn feddal. Tynnu’r pannas allan o’r dwr a rhoi gyda’r moron mewn dysgl caserol sydd wedi iro.

Meddalu’r menyn mewn sosban fawr a ffrio’r winwnsyn nes yn feddal.

Ychwanegu’r blawd a’i droi’n gyson am 5 munud dros wres cymedrol.

Gostwng y gwres, ychwanegu’r llaeth cneuen coco a’i droi nes iddo dewhau. Ychwanegu halen yn ôl y gofyn

Rhoi’r caws yn y saws a’i gymysgu nes iddo feddalu.

Arllwys y saws dros y llysiau, gosod y caserol yn y popty ar wres o 200°C/400°F/Nwy 6 am ryw 5-10 munud.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY