dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IÂR GYDA PHRŴNS A CNEUBINWYDD

CYW IÂR GYDA PHRŴNS A CNEUBINWYDD

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 llwy fwrdd olew olewydd
8 cluniau cyw iâr (thighs) - wedi gwaredu’r croen
1 winwnsyn - wedi ei sleisio
200 g prŵns - heb gerrig
50 g cneubinwydd (pine nuts)
100 ml gwin gwyn sych
2 llwy fwrdd persli ffres - wedi ei falu’n fan
Halen
Pupur
DULL
Cynhesu'r olew mewn padell ffrio fawr.

Ychwanegu’r cyw iâr, ei orchuddio a’i goginio am 5 - 10 munud hyd nes ei fod yn frown.

Ychwanegu’r winwnsyn a’i goginio dros wres isel am 10 munud gan ei droi’n achlysurol.

Ychwanegu’r prŵns, cneubinwydd a’r gwin i’r badell, ei orchuddio a’i goginio am ¼awr.

Ychwanegu’r persli a’i goginio am 5 munud arall. Blasu gyda phupur a halen

Gweini gyda chyw iâr gyda couscous ffa du.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY