dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PWDIN POMGRANAD A MASCARPONE - rysáit gan Elin Williams

PWDIN POMGRANAD A MASCARPONE - rysáit gan Elin Williams

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 pomgranad - sudd yn unig
½ lemwn - sudd yn unig
3-4 llwy fwrdd kirsch neu sudd geirios maraschino
1 pomgranad - hadau yn unig
1 twb caws mascarpone
4 llwy fwrdd o siwgr Demerara
2 lwy fwrdd o siwgr muscovado
Sbrigiau mintys
8 bisgedi Amoretti
DULL
Defnyddio sif neu ‘potato ricer’ i dynnu’r sudd o hadau’r pomgranad.

Ychwanegu sudd y lemwn a’r kirsch/maraschino at sudd y pomgranad.

Ei flasu, ac ychwanegu mwy o kirsch/marachino yn ôl eich blas.

Tynnu hadau o’r pomgranad arall, tywallt y sudd uchod ar ben yr hadau a’u adael i farineiddio am 30 munud.

Rhoi’r hadau a’r sudd ar waelod 4 dysgl gratin - cadwch rhai fel addurn.

Taenu’r mascarpone dros gynnwys y pedair dysgl - bydd angen rhyw fodfedd o drwch. (Gallwch roi’r mascarpone mewn bowlen a’i guro gyda llwy bren i’w wneud yn haws i’w daenu).

Cymysgu’r ddau siwgr gyda’i gilydd a rhoi haenen drwchus o’r siwgr dros y mascarpone.

Gosod dan gril poeth tan fod y siwgr wedi carameleiddio neu defnyddiwch ‘blowtorch’ cegin.

I’w weini ar blât gydag ychydig o hadau a sudd pomgranad, deilen o fintys a 2 o fisgedi Amoretti ar bob plât.

TIP - Gallwch baratoi hyn ymlaen llaw a gadael y pwdin yn yr oergell. O wneud hyn bydd y siwgr yn dechrau toddi ac fe gymer lai o amser dan y gril cyn ei weini.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY