dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MINS PEIS BACH GYDA BRIWGIG MELYS CARTREF

MINS PEIS BACH GYDA BRIWGIG MELYS CARTREF

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 30

CYNHWYSION

Briwgig:
150 g afalau bramley - torri’n fan
125 g grawnwin du heb hadau - torri’n fan
125 g cwrens - torri’n fan
150 g syltanas - torri’n fan
40 g candi-pîl
30 g llugaeron sych
60 g almon - wedi’u malu
1 oren - croen a sudd yn unig
1 grawnffrwyth - croen a sudd yn unig
250 g siwgr muscovado
10 g powdwr pum sbeis tseiniaidd
5 g powdwr cardamom
½ powdwr sinamon
100 ml rym tywyll

Y toes:
250 g menyn heb halen
125 g siwgr eisin
2 melynwy
500 g blawd plaen
1 oren - croen

I orffen:
1 wy - wedi’i guro
caws e.g brie
Siwgr eisin - fel addurn yn unig
DULL
Cymysgu’r holl gynhwysion y briwgig mewn powlen, a’i adael yn yr oergell.

I wneud y toes, rhoi’r menyn â’r siwgr eisin mewn powlen a’u cymysgu’n dda. Ychwanegu’r croen oren, melynwy ac yna’r blawd. Tylino’r cyfan i greu toes llyfn a’i adael yn yr oergell am awr.

Y mins peis:

Cynhesu’r ffwrn i 190°C/375°F/Nwy 5.

Rolio’r toes i drwch o 5mm.

Torri rhyw 30 o gylchoedd mymryn yn fwy na’r tyllau yn y tun cacennau/mins peis.

Torri 30 arall o gylchoedd llai o faint er mwyn creu caead i’r mins peis.

Leinio’r tyllau gyda’r toes a’u llenwi gyda’r briwgig melys.

Rhoi darn o gaws ar ben y briwgig a rhoi'r cylchoedd llai o does ar ben bob un.

Gan ddefnyddio brwsh, paentio’r wy i roi sglein ar ben y mins peis.

Rhoi yn y ffwrn am 25 munud neu hyd nes iddynt droi yn lliw euraidd.

Trosglwyddo i rac weiren i oeri.

I weini, ysgeintio’r mins peis gyda’r siwgr eisin.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY