DULL
Torri’r eog mewn i 12 ‘escalope’ tenau (¼ modfedd o drwch). Sesno’r pysgod.
Mewn sosban, rhoi’r stoc, hanner yr hufen a’r fermwth i’w ferwi’n gyflym er mwyn ei leihau i ¾ mewn maint.
Ar ôl i’r stoc leihau, ychwanegu gweddill yr hufen, y menyn a’r sudd lemwn a’i adael i leihau ychydig yn fwy.
Ychwanegu’r asbaragws a choginio am 4 munud, yna ychwanegu’r tarragon a’i gymysgu’n dda.
Cynhesu olew mewn gridl neu ffreipan fawr a choginio’r pysgod am funud bob ochr.
I’w weini, arllwys y saws ar blatiau cynnes a gosod yr ‘escalopes’ yn ofalus ar ben y saws (rhyw 3 ar bob plât) a’i weini’n syth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley