dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SALAD COUSCOUS

SALAD COUSCOUS

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I :

CYNHWYSION

stoc llysiau
1 pecyn o couscous
2 llwy bwrdd olew cnau
1 llwy de o saws pysgod neu saws soya ysgafn
coriander ffres
1 winwnsyn
1 pupur coch, oren a melyn
1chilli gwyrdd
corn India
6 llwy fwrdd o olew olewydd
2 llwy fwrdd o finegr balsamaidd
croen1 lemwn
pupur du
DULL
Arllwyswch hanner pecyn o couscous i bowlen fawr. Arllwyswch stoc ferwedig i orchuddio'r couscous, cymysgwch yr olew cnau a saws pysgod i'r couscous a'i adael am 15 munud. Torrwch y winwnsyn a'r chilli a'u ffrio mewn ychydig o olew tan yn feddal. Torrwch y pupur a'r india corn yn giwbiau bach, a'u hychwanegu at y winwns a'u coginio am bum munud. Tynnwch ddail y llysiau'r bara a'u torri'n fân. Mewn powlen, arllwyswch olew yr olewydd a'r finegr balsamaidd a'u cymysgu'n dda. Yna cymysgwch y cynhwysion i gyd gyda'r couscous, gan ychwanegu croen y lemwn, llysiau'r bara, olew, finegr balsamaidd a phupur du yn ôl eich blas a gadael y cyfan yn yr oergell am awr cyn ei fwyta.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY