dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TREIFFL COFFI, BRANDI A BAILEYS

TREIFFL COFFI, BRANDI A BAILEYS

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 6 - 8

CYNHWYSION

175 ml coffi ffres - wedi ei baratoi mewn jwg
85 g siwgr caster
3 llwy fwrdd brandi
1 ffon sinamon
175 g cacen Madeira
225 g mafon ffres
500 g cwstard ffres o ansawdd da
285 ml hufen dwbl
3 llwy fwrdd Baileys
1 bar siocled o ansawdd da
DULL
Rhoi’r coffi mewn sosban gyda’r siwgr a dod ar gyfan i’r berw gan ei droi’n achlysurol hyd nes bod y siwgr yn toddi.

Ychwanegu’r brandi a’r ffon sinamon a’i adael i ffrwtian hyd nes bod y gymysgedd wedi lleihau i tua 175 ml (cymerith hyn tua 8-10 munud).

Tynnu’r ffon sinamon allan, tywallt y gymysgedd i jwg sy’n wrth sefyll gwres a’i adael i oeri.

Torri’r gacen Madeira yn ddarnau a’u gosod ar waelod powlen dreiffl fach.

Gwagio’r gymysgedd coffi a brandi sydd wedi oeri dros y gacen a’i adael am ychydig i fwydo.

Ysgeintio hanner y mafon dros y gacen.

Tywallt y cwstard dros y cyfan.

Chwipio’r hufen a’r Baileys yn begynau meddal yna’i wasgaru dros ben y cwstard.

Oeri’r cyfan cyn ei weini (mae modd paratoi'r treiffl y diwrnod cynt hyd at y cam yma).

I’w addurno gyda weddill y mafon ac yna gratio ychydig o’r siocled dros ben y treiffl.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY