dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SALAD BRESYCH COCH, OREN A THATWS NEWYDD

SALAD BRESYCH COCH, OREN A THATWS NEWYDD

CATEGORI : PRYDAU LLYSIEUOL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

400 g tatws newydd - wedi’u glanhau
3 oren gwaed neu 2 oren cyffredin
½ llwy de finegr gwyn gwin
¼ llwy de halen
4 llwy fwrdd olew yr Olewydd
1 bresych coch bach
1 winwnsyn coch - wedi’i sleisio
2 sicori
10g persli - tynnu’r dail a’u rhoi mewn dŵr oer (fydd hyn yn arbed y dail rhag mynd yn llipa yn y salad poeth)
DULL
Rhoi’r tatws mewn sosban fawr o ddŵr oer wedi’i halltu a dod a’r cyfan i’r berwi, yna gostwng y gwres a’u mud ferwi am 12-15 munud neu hyd nes yn dyner.

Yn y cyfamser, gratio ¼ lwy de o groen 1 oren a’i rhoi naill ochr.

Tynnu croen gweddill yr orennau, gwaredu’r croen gwyn y tu fewn a’u thorri’n segmentau dros bowlen er mwyn casglu’r sudd. Gwasgu’r sudd o’r oren arall i mewn i’r bowlen hefyd.

Rhoi'r croen oren wedi’i gratio, halen, finegr gwin gwyn a 2 lwy fwrdd o’r sudd oren mewn powlen salad fawr.

Chwisgo'r olew ychydig ar y tro i mewn i’r bowlen, yna ychwanegu’r segmentau oren.
Torri’r bresych a’i osod mewn powlen arall.

Ychwanegu’r winwnsyn i’r olew.

Gwaredu’r dŵr, torri’r tatws mewn haneri neu chwarteri a’u gosod yn y bowlen salad.

Torri’r sicori i mewn i ddarnau bach a’u hychwanegu i’r bowlen salad

Sychu'r dail persli ac ychwanegu i’r bowlen salad.

Cymysgu’r holl gynhwysion yn dda a’i weini’n syth.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY