DULL
Iro padell ffrio yn dda.
Gosod haen o datws yn daclus ar waelod y badell, gan eistedd un dros ben hanner y llall (mae hyn yn bwysig er mwyn dal y cyfan gyda’i gilydd). Ailadrodd y broses 2 waith i greu 3 haen o datws.
Rhwygo’r twrci a gosod haen o gig ar ben y tatws, yna’r stwffin a’r selsig.
Ychwanegu halen a phupur.
Gosod 3 haenen arall o datws ar ben y cig, yna arllwys y stoc i’r badell hyd at ¾ ffordd i fyny’r badell.
Pobi’r darten yn y ffwrn am awr ar wres 180ºC a’i adael i orffwys am 15 munud cyn troi’r darten allan ar blât.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley