dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PELI SIOCLED

PELI SIOCLED

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 12

CYNHWYSION

150 g siocled plaen sy’n cynnwys o leiaf 75% cocoa
150 ml hufen dwbl trwchus
25 g menyn heb halen
2 llwy fwrdd grand marnier/rum/brandi
1 llwy fwrdd gwastad iogwrt groegaidd
1 oren – croen yn unig

Addurno rhai plaen:
1 llwy bwdin powdwr cocoa

Addurno rhai sinsir:
20 g sinsir cyffeithiedig (preserved ) - wedi ei dorri’n fân

Addurno rhai almonau:
25 g almonau ( flakes) - tostio a’u torri’n fan

Addurno rhai siocled:
50 g siocled tywyll
½ llwy de olew cneuen daear
cocoa
DULL
Malu’r siocled yn sgwariau a’u rhoi mewn prosesydd bwyd. Yna eu malu hyd nes eu bod yn fan iawn - yn debyg i siwgr.

Rhoi’r hufen, siocled, croen oren a’r gwirod (rum/brandi ayyb) mewn sosban a’u mudferwi.

Troi’r prosesydd bwyd ymlaen ac arllwys y gymysgedd hufen yn ofalus drwy’r tiwb bwydo, cymysgu’r cyfan hyd nes bod y gymysgedd yn llyfn ac wedi cymysgu’n dda.

Ychwanegu’r iogwrt a’i gymysgu eto am ychydig.

Rhoi’r gymysgedd mewn powlen a’i orchuddio a cling flim a’i roi yn yr oergell dros nos. Mi fydd y gymysgedd yn eithaf gwlyb ond fe fydd yn sychu ar ôl cyfnod yn yr oergell.

Bore wedyn, rhannu’r gymysgedd rhwng 4 powlen eu gorchuddio a’u cadw yn yr oergell hyd nes yn barod i’w defnyddio.

Creu peli bach a’u haddurno gydag un neu fwy o’r cynhwysion uchod.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY