dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PARSELI TWRCI SIÔN CORN

PARSELI TWRCI SIÔN CORN

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 30

CYNHWYSION

25 g menyn
1 winwnsyn - wedi’i dorri’n fan
8 madarch cneuen castan - wedi eu sleisio
400 g twrci - wedi’i goginio a’i dorri’n fan
1 afal - tynnu’r croen a’i gratio
25 g pysgnau - wedi eu malu
1 gwydr bach sherry
2 llwy fwrdd saws llugaeron
Pinsiad pupur cayenne
1 pecyn toes filo
75 g menyn - wedi’i doddi
DULL
Toddi’r menyn mewn sosban.

Ffrio’r winwnsyn a’r madarch yn y menyn.

Rhoi’r twrci yn y sosban, yna’r afal, cnau, sherry, saws llugaeron, pinsiad o bupur cayenne a’i gymysgu’n dda cyn ei adael i oeri.

Brwsio’r tafelli filo gyda’r menyn, yna eistedd darn arall o filo ar ei ben – mae angen 3 ‘haen’ o filo i bob parsel.

Rhoi llwyed o’r gymysgedd yng nghanol y filo, brwsio’r ochrau gyda’r menyn ac yna tynnu’r ochrau at ei gilydd i greu siâp sach fach.

Gosod y parseli ar dun pobi a brwsio gweddill y menyn dros y parseli cyn eu rhoi yn y ffwrn ar wres 180ºC am 8-10 munud nes iddynt droi yn lliw euraidd.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY