dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STWFFIN CNAU PECAN A GRAWNWIN DU - rysáit gan Euros Owen

STWFFIN CNAU PECAN A GRAWNWIN DU - rysáit gan Euros Owen

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 8

CYNHWYSION

1 winwnsyn mawr - wedi’i dorri’n fân
25g menyn
300g cig selsig
100g briwsion bara gwyn ffres
100g cnau pecan - wedi’u tostio a’u torri’n fân
100g grawnwin du - wedi’u haneri
1 llwy de grawn pupur gwyrdd - wedi’u malu
2 llwy fwrdd teim ffres
1 lemwn - croen yn unig
DULL
Toddi’r menyn mewn sosban, ychwanegu'r winwnsyn a’i goginio hyd nes yn feddal.

Rhoi gweddill y cynhwysion mewn powlen a’u cymysgu’n dda.

Ychwanegu’r winwnsyn ac unrhyw fenyn sydd ar ôl a’u droi’n dda.

Rhoi'r stwffin yng ngwddw'r twrci neu mewn powlen a’i goginio yn y ffwrn ar dymheredd o 180°C am ryw 30-40 munud.

Gellir paratoi’r stwffin dau ddiwrnod o flaen llaw a’i gadw yn yr oergell.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY