DULL
Rhoi menyn mewn tun rhostio a’i osod yn y ffwrn.
Berwi’r pannas am 4 munud hyd nes eu bod yn dechrau meddalu.
Cymysgu'r caws parmesan a’r blawd mewn powlen.
Rolio'r pannas yn y blawd a’r caws, a’u rhoi ar blât.
Tynnu'r tun o’r ffwrn, gosod y pannas yn y tun a’u gorchuddio yn y menyn wedi’i doddi.
Rhoi'r tun yn ôl yn y ffwrn am ryw 20 munud, yna eu troi a’u coginio am 20 munud arall neu hyd nes bod y pannas yn barod.
Gweini yn syth.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley