dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SORBET MWYAR DUON - rysáit gan Euros Owen

SORBET MWYAR DUON - rysáit gan Euros Owen

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 8

CYNHWYSION

½ peint dŵr
200g siwgr
450g mwyar duon
3 gwyn wy - wedi eu curo yn dda
DULL
Berwi'r dŵr a’r siwgr mewn sosban hyd nes i’r hylif leihau i hanner mewn maint

Ychwanegu’r mwyar duon a’u berwi hyd nes yn feddal.

Hidlo’r gymysgedd trwy ridyll mân i fowlen gan wasgu’r mwyar yn stwnsh.

Rhoi’r gymysgedd mewn twb plastig a’i osod yn y rhewgell am 4 awr.

Rhoi'r hylif mwyaf hanner rhewi mewn powlen a’i guro hyd nes y bydd yn dechrau newid lliw.

Yn raddol, cymysgu'r gwyn wy i’r hylif mwyar.

Rhoi'r gymysgedd yn ôl yn y twb plastig ac i’r rhewgell am 24 awr.

Tynnu o’r rhewgell hanner awr cyn ei weini.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY