dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TERÎN SIOCLED - rysáit gan Euros Owen

TERÎN SIOCLED - rysáit gan Euros Owen

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 8

CYNHWYSION

250g siocled tywyll gydag o leiaf 50% coco - torri’n ddarnau
6 wy - wedi’u rhannu
20g menyn i iro
½ peint hufen dwbl
250g siocled gwyn - wedi’i dorri’n ddarnau
DULL
Cynhesu ffwrn i dymheredd o 160ºC/325ºF/Nwy 3.

Toddi'r siocled tywyll mewn powlen uwchben sosban o ddŵr twym.

Tynnu'r siocled oddi ar y gwres ac yn raddol ychwanegu’r 6 melynwy.

Gyda llwy fetel, ychwanegu'r 6 gwyn wy yn raddol a’u gymysgu’n dda.

Iro a leinio tun ‘swiss roll’ yna gosod y gymysgedd siocled i mewn i’r tun a’i goginio am 15 munud hyd nes ei fod yn gadarn.

Yn y cyfamser, rhoi'r hufen dwbl mewn sosban a’i gynhesu.

Ychwanegu'r siocled gwyn a’i droi hyd nes iddo doddi.

Gadael y gymysgedd i oeri am ychydig ac yna ei guro tan i’r gymysgedd ddechrau tewhau rhywfaint.

I greu’r terîn, llenwch dun bara (900g) gyda ‘cling film’. Rhoi tua chwarter y gymysgedd siocled gwyn yng ngwaelod y tun.

Torri'r gacen siocled tywyll yn dair a rhoi un darn ar ben y siocled gwyn yn y tun. Gorchuddio'r gacen gyda chwarter y gymysgedd siocled gwyn a rhoi darn arall o’r gacen ar ei ben. Gosod y darn olaf a’i orchuddio gyda gweddill y siocled gwyn.

Rhoi'r tun yn yr oergell i galedi am o leiaf 8 awr.

Troi'r tun allan ar blât a thynnu’r ‘cling film’ i weini. Neu gellir rhoi’r terîn yn y rhewgell tan fydd ei hangen – fe fydd angen o leiaf awr arni i ddadmer.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY