dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SBROWTS MEWN BASGEDI PARMESAN

SBROWTS MEWN BASGEDI PARMESAN

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 2

CYNHWYSION

150g Parmesan - wedi’i ratio
4 sbrowt - wedi’u torri’n fân
1 llwy fwrdd olew olewydd
2 lwy fwrdd Parmesan - wedi’i gratio fân
2 lwy fwrdd coriander ffres - wedi’i dorri’n fras
2 lwy fwrdd basil ffres - wedi’i dorri’n fras
2 lwy fwrdd persli dail fflat ffres - wedi’i dorri’n fras
1 llwy fwrdd hadau sesame
DULL
Cynhesu’r ffwrn i 220ºC/425ºF/Gas 7

I wneud y basgedi, rhoi 2 dwmpath o’r caws ar hambwrdd ddi-lynu a’i osod yn y ffwrn am 3 munud.

Tynnu’r hambwrdd o’r ffwrn a gosod y twmpathau dros wydr neu waelod pot jam er mwyn creu siâp basgedi, a’u gadael am funud i setio.

Cynhesu’r olew mewn sosban a ffrio’r sbrowts yn ysgafn am 1-2 funud, yna ei adael i oeri am ychydig.

Cymysgu’r Parmesan, sbrowts a’r perlysiau ffres mewn powlen. Rhoi’r gymysgedd i mewn i’r basgedi a’u trosglwyddo i blât.

Ysgeintio’r hadau sesame dros y basgedi a’u gweini’n syth.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY