DULL
Cymysgu’r blawd, halen powdwr pobi, sinamon, clofs a’r sinsir mewn peiriant prosesu.
Ychwanegu'r menyn a’r siwgr, ac yn araf, yr wyau a’r mêl (fydd angen cymerid gofal fan hyn rhag ofn i’r toes fynd yn wlyb).
Cynhesu’r ffwrn i wres o 170°C/Ffan 150°C/Nwy 3.
Iro 2 dun pobi, rholio’r toes i 1.5cm, torri allan siapau sêr, coed Nadolig, calonnau neu unrhyw siap o’ch dewis. Rolio'r toes unwaith eto a thorri mwy o siapau hyd nes eich bod wedi defnyddio’r toes i gyd.
Os bwriedir hongian rhai o’r addurniadau ar y goeden, torrwch dwll ym mhen y bisgedi.
Gosod y bisgedi ar y tun a’u pobi am 20 munud.
Tynnu’r bisgedi o’r ffwrn a’u gadael i oeri ar hambwrdd.
Paratoi'r eisin yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Gyda chefn llwy fetel, rhoi'r eisin ar y bisgedi a’u gorchuddio gyda pheli lliwgar.
Ar ôl i’r eisin galedi, gosod mewn tun gyda chaead neu eu hongian ar y goeden gyda rhuban.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley