dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
HWYADEN MEWN SAWS OREN A SIAMPEN

HWYADEN MEWN SAWS OREN A SIAMPEN

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 brest hwyaden - sleisio yn dafellu (6 tafell i bob brest)
Pinsiad halen a phupur
1½ gwydred siampen
100ml stôc cyw îar
3 melynŵy
6 llwy fwrdd sudd oren
130ml hufen dwbl
2 llwy de pupur grawn gwyrdd (mewn brine) - wedi’u malu
Dyrned dŵr berw (watercress)

DULL
Rhoi halen a phupur du dros y cig ar y ddwy ochr.

Ffrio’r 2 frest hwyaden mewn ffreipan sych am 2 funud ar bob ochr, yna eu rhoi ar blat a’u cadw’n gynnes

Arllwys y siampen i fewn i’r ffreipan a’i leihau i hanner y maint, ychwanegu’r stôc a’u fudferwi am funud.

Mewn powlen, cymysgu’r wyau, sudd oren a’r hufen, yna arllwys y cyfan i’r ffreipan a’i droi’n gyson i arbed lwmpau.

Ychwanegu’r pupur grawn gwyrdd i’r saws a’u mudferwi am 2-3 munud.

Rhoi’r cig yn ôl i’r saws i ail-gynhesu am funud.

Addurno’r plat gyda llond llaw o ferw dŵr.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY