DULL
Ffrio’r winwnsyn a’r garlleg yn y menyn tan fod y winwnsyn yn meddalu.
Ychwanegu’r pupur coch a’i goginio am ychydig funudau nes yn feddal.
Ychwanegu’r selsig a’i goginio am ryw 5 munud tan ei fod wedi coginio.
Ychwanegu’r cwrw, sudd leim, mêl, mwstard a phinsied o halen a phupur a’i goginio am 2-3 munud.
Ychwanegu’r cregyn gleision a’r bresych a rhoi caead ar ben y cyfan a’i adael i goginio tan fod y cregyn glesion yn agor – rhyw 5-6 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley