dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
EOG DYFRDWY PUM SBEIS

EOG DYFRDWY PUM SBEIS

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

YR EOG

2 ddarn o eog – ffiled (eog gwyllt os y medrwch)
Pinsied o bupur
Pinsied o halen
2 llwy de siwgr eisin
2 llwy de powdwr pum sbeis Tsieineaidd
1 llwy fwrdd o olew olewydd

GWELY’R EOG

1 llwy fwrdd olew olewydd
½ chili coch – tynnu’r hadau a malu’n fân
½ modfedd o sinsir – tynnu’r croen a malu’n fân
¼ bresych gwyn – wedi sleisio’n fân
1 llwy de o siwgr eisin
2 seren anis
75g syltanas
75ml sieri
25ml finegr gwin gwyn
50g o egin ffa (beansprouts)
DULL
YR EOG

Gwneud 2 i 3 toriad gyda chyllell siarp yng nghroen yr eog.

Rhwbio pupur, halen, siwgr eisin a’r powdwr pum sbeis tsieineaidd i’r croen.

Cynhesu’r olew yn y badell a rhoi’r eog yn y badell – croen yn gyntaf.

Coginio’r eog tan fod y croen yn crino a charamaleiddio.

Troi’r eog a’i goginio am ychydig funudau tan fod yr eog yn barod.

Ei dynnu o’r badell a’i adael i orffwys.


GWELY’R EOG

Cynhesu’r olew mewn padell ffrio.

Ychwanegu’r bresych gwyn a’i ffrio gyda’r chili, sinsir a’r siwgr eisin am ychydig funudau.

Ychwanegu’r seren anis yna'r syltanas.

Cymysgu’r cyfan yn dda a’i adael i goginio tan fod y bresych yn dyner.

Ychwanegu’r sieri a’r finegr gwin gwyn a’i adael i ffrwtian a lleihau am ryw 3 i 4 munud.

Ychwanegu’r egin ffa a’i goginio am 2-3 munud.

Rhoi’r gymysgedd bresych a’r egin ffa ar blât a gosod yr eog ar ei ben.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY