DULL
Cynhesu’r olew mewn padell ffrio dros wres cymhedrol.
Ychwanegu’r winwns, garlleg, rhesins/syltanas a’r pîn-afal a’i goginio am oddeutu 10 munud. Ei dynnu oddi ar y gwres a’i adael i oeri.
Mewn powlen fawr, cymysgu’r briwgig byfflo gyda’r gymysgedd ffrwythau sydd wedi oeri.
Ychwanegu’r wy a’u cymysgu’n dda. Ychwanegu’r powdwr sinisr, cracers a phupur a halen i’w sesno.
Siapio’r gymysgedd i beli maint peli golff.
Rhoi ychydig o’r olew mewn padell ffrio a choginio’r peli ar wres cymhedrol am oddeutu 5 munud bob ochr tan eu bod wedi brownio.
Eu tynnu oddi ar y gwres a’u gadael i orffwys.
Paratoi’r nwdls gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
Ychwanegu stoc cig eidion a’r gwin coch gan ryddhau unrhyw ddarnau o gig sy’n weddill yn y badell. Dod ar cyfan i’r berw.
Troi a berwi’r cyfan am 3 i 4 munud a’i leihau ychydig. Gosod y nwdls ar blât yna’r peli byfflo ac yna arllwys y saws dros y cyfan.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley