DULL
GWIN A WINWNS
Agor cragen y wystrys yn ofalus a’u rhoi i un ochr.
Cymysgu’r cynhwysion mewn powlen a’u llwyo dros y wystrys yn y gragen.
OLEW SESAME + SAWS SOI
Agor cragen y wystrys yn ofalus a’u rhoi i un ochr.
Cymysgu’r cynhwysion mewn powlen a’u llwyo dros y wystrys yn y gragen.
BRIWSION BARA CHILI A SINSIR
Agor cragen y wystrys yn ofalus gan gadw’r hylif.
Rhoi’r wystrys i un ochr.
Mewn pestl a mortar rhoi’r chili a’r sinsir a’i guro hyd nes yn llyfn. Ychwanegu i'r menyn a'i gymysgu'n dda.
Ychwanegu’r briwsion bara fesul tipyn â hylif y wystrys.
Rhoi’r gymysgedd mewn powlen ac ychwanegu’r menyn a’i gymysgu’n dda.
Ychwanegu digon o rwm i wneud y gymysgedd yn haws i’w ledaenu.
Rhowch haenen drwchus o halen môr ar ddarn o bapur pobi.
Lledaenu’r gymysgedd briwsion bara dros y wystrys ac yna eu gosod yn yr halen.
Eu coginio dan gril poeth am oddeutu 2 funud neu hyd nes bod y gymysgedd briswision bara yn troi’n liw euraidd.
Eu gweini ar unwaith.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley