DULL
Cynhesu’r olew a ffrio’r garlleg a’r winwns tan eu bod yn troi’n feddal.
Ychwanegu’r ffenigl a’r madarch a’u ffrio am oddeutu 5-7 munud.
Ychwanegu’r reis a’i gynhesu cyn ychwanegu’r stoc.
Ychwanegu’r saffrwm, persli, tarragon a’i adael i ffrwtian am ryw 5 munud tan fod y reis yn dechrau coginio.
Ychwanegu’r cocos, cregyn gleision a’r gwin ac yna’r torbwt a’r draenog y môr.
Ychwanegu corn carw’r môr, menyn a’r hufen dwbl / crème fraiche ei gymysgu a’i gynhesu trwyddo.
Coginio’r cyfan tan fod y reis yn dyner, y pysgod wedi’u coginio’n drylwyr a’r pysgod cregyn wedi’u hagor.
Gweini gyda darn o lemwn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley