dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
LLYSYWEN FÔR Y FENAI

LLYSYWEN FÔR Y FENAI

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1 darn 8 modfedd o lysywen – heb groen, wedi ei dynnu o’r asgwrn ac wedi ei dorri’n ddarnau ½ modfedd o gylch
Pupur du
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 ewyn o arlleg – wedi eu torri’n fân
25g menyn
25ml Vermouth
1 winwnsyn – wedi ei sleisio yn denau
2 tomato – wedi eu chwarteru
1 llwy fwrdd o bersli ffres - malu’n fân
DULL
Toddi’r menyn mewn padell a ffrio'r garlleg.

Ychwanegu’r darnau o lysywod a’u sesno â phupur du. Eu coginio am ryw 4 munud pob ochr.

Eu tynnu o’r badell a’u rhoi i un ochr.

Cynhesu olew olewydd mewn padell ac ychwanegu’r tomatos, winwns a’r vermouth a dod â’r cyfan i’r berw.

Ychwanegu’r llysywen i’r badell a berwi’r cyfan yn isel am ryw 5 munud.

Ei weini ac ysgeintio’r persli dros y cyfan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY