dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
MALWOD MÔR PORTHDINLLAEN

MALWOD MÔR PORTHDINLLAEN

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

400g malwod y môr
3 llwy fwrdd o flawd gwenith
3 llwy fwrdd o olew coginio
1 llwy fwrdd o garlleg – wedi ei dorri’n fân
5 madarch shiitake – wedi ei sleisio’n denau
5 llwy fwrdd o saws wystrys
1 llwy de siwgr
½ llwy de pupur gwyn
2 shibwns – wedi eu torri ar eu hyd
1 chili coch – wedi tynnu’r hadau a’u sleisio’n denau
DULL
Torri’r malwod môr ar eu hyd yn 1mm o drwch.

Gorchuddio’r malwod môr gyda’r blawd yn ysgafn.

Cynhesu’r olew mewn padell ffrio dros wres cymhedrol.

Ffrio’r garlleg ac ychwanegu’r madarch.

Wedi’r madarch goginio ychwanegu’r malwod môr, a’u ffrio yn gyflym am ddau funud cyn ychwanegu’r sigwr, pupur a’r saws wystrys.

Cymysgu’r cyfan yn dda.

Ychwanegu’r shibwns a’r chilli.

Cymysgu’r cyfan unwaith eto a’i weini yn syth.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY