DULL
Rhoi 2 litr o ddŵr a 20g o halen mewn sosban fawr a dod â’r cyfan i’r berw yna ychwanegu’r cimwch a’i goginio am 12-15 munud.
Tynnu’r cimwch o’r dŵr a’i adael i oeri cyn ei hollti’n ddau ddarn ar ei hyd.
Toddi menyn a ffrio’r winwnsyn nes ei fod yn feddal.
Arllwys y brandi i’r badell a’i fflamio, cyn ychwanegu’r hufen a’i ferwi'n isel er mwyn tewhau’r saws ychydig.
I orffen y saws rhoi’r tomatos a’r shibwns i fewn a’u cynhesu trwyddo cyn gweini’r saws dros gig y cimwch.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley