DULL
Paratoi y mingrwn - cadw’r pysgodyn yn gyfan – a gwaredu’r cen. Torri ar hyd bol y pysgodyn a gwaredu’r perfedd a’i lanhau yn drylwyr.
Cynhesu’r popty i wres 180 gradd selsiws, 350 Fahrenheit a 4 gas.
Gosod ¾ y winwns, madarch, ffenigl, helogen, garlleg a chroen yr oren a’r ddarn o ffoil.
Rhoi gweddill y cynhwysion ym mol y mingrwn coch a rhwbio halen i’w groen ac yna gosod y pysgodyn ar ben y llysiau.
Creu parsel gyda’r ffoil o amgylch y pysgodyn.
Arllwys y gwin a sudd yr oren dros y cyfan a’i roi yn y ffwrn am ryw 20-30 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley