DULL
Gosod y darnau mân o goed a’r rhosmari mewn teclyn mygu a’i gynnau.
Sesno’r pysgodyn a’i osod yn y teclyn mygu a’i adael i goginio am 10 munud.
Paratoi’r salad tomatos – rhoi’r winwns yng nghanol plât gweini a gosod y tomatos wedi eu sleisio’n denau ar ei ben cyn arllwys y fineg balsamig a’r olew olewydd dros y cyfan.
Ychwanegu’r tatws newydd at y pysgodyn yn y teclyn mygu a’u cynhesu am tua 5 munud.
Gweini’r pysgodyn ar wely o salad tomato gyda’r tatws newydd a’r tomatos wedi eu sychu yn yr haul a’r asbaragws.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley