dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
EURGEFN Â SALSA SITRWS gan Billy Taylor, Gwesty Portmeirion

EURGEFN Â SALSA SITRWS gan Billy Taylor, Gwesty Portmeirion

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 ffiled o John Dory (eurgefn) gyda chroen
2 llwy fwrdd olew olewydd
Halen
Pupur


Salsa

½ tomato ‘vine’ mawr – heb groen, tynnu’r hadau a’i dorri’n fân
½ avocado – heb groen a’i dorri’n fân
½ lemwn – heb groen a’i dorri’n fân
½ oren – heb groen a’i dorri’n fân
¼ grawnffrwyth – heb groen a’i dorri’n fân
1-2 llwy fwrdd olew olewydd coeth
Halen
Pupur
DULL
Y PYSGODYN

Cynhesu’r olew olewydd mewn padell ffrio a sesno’r John Dory gyda’r halen a phupur.

Ffrio y John Dory a’i groen i lawr tan fod y croen yn grisb – yna ei droi a’i goginio am 3–4 munud – neu tan fod y pysgodyn yn barod.

Tynnu o’r badell a’i adael i orffwys.


Y SALSA

Cymysgu’r holl gynhwysion sy’n weddill gyda’i gilydd ac ychwanegu’r olew olewydd a’i sesno (mae’n well ei wneud y diwrnod cynt fel bo’r holl flasau’n gallu treiddio).

Rhoi’r salsa ar blât gyda’r John Dory.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY