dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STOC PYSGOD

STOC PYSGOD

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 1.5 ltr

CYNHWYSION

1.5kg esgyrn pysgodyn gwyn - dim gwaed
1 cennin – wedi ei dorri’n fân
1 winwns – wedi ei dorri’n fân
1 helogen – wedi ei dorri’n fân
½ bwlb ffenigl
2 ewyn o arlleg
100ml olew olewydd ysgafn
300ml gwin gwyn sych
2 litr o ddŵr
2 sbrigyn o thyme
2 sbrigyn o persli
½ lemwn wedi ei sleisio’n denau
½ llwy de o pupur grawn gwyn
DULL
Malu’r esgyrn y pysgodyn yn fras a’u rhoi i un ochr.

Rhoi’r llysiau i gyd mewn un sosban gyda’r olew a’u cynhesu hyd nes eu bod yn hisian. Gorchuddio’r cyfan â caead a’i goginio’n ysgafn heb eu lliwio am 6-8 munud.

Ychwanegu’r esgyrn i mewn gyda’r gwin a’i leihau bron iawn i gyd. Yna ychwanegu’r dwr, perlysiau, lemwn a’r pupur grawn i’r sosban a dod ar cyfan i’r berw dros wres canolig i uchel.

Gwaredu’r llysnafedd o wyneb i stoc a’i daflu.

Wedi iddo ddod i’r berw troi’r gwres i lawr a’i adael i frwtian heb gaead am 20 munud.

Troi’r gwres i ffwrdd a’i adael i orffwys.

Leinio hidlwr gyda mwslin neu napcyn 3 haenen ac arllwys y stoc yn ofalus trwyddo.

Oeri’r cyfan a’i adael i orffwys.

Er mwyn gwneud y stoc yn gryfach rhai brewi’r cyfan ymhellach nes cael y blas a fynnir.

Rhewi yr hylif sy'n weddill ar gyfer y tro nesa.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY