dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYW IAR GYDA NWDLS

CYW IAR GYDA NWDLS

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I :

CYNHWYSION

1 brest cyw iâr - wedi'i dorri'n fân
2 llwy fwrdd o olew olewydd
2 ewin o arlleg - wedi'u torri'n fân
3 chilli wyrdd - wedi'u torri'n fân
1 wy
50g/2 owns o fadarch
12 chilli goch sych
coriander ffres - wedi'i dorri'n fân
1 pecyn nwdls sych
100g/4 owns o beansprouts
1 llwy fwrdd o saws pysgod
2 lwy fwrdd o saws wystrys
2 shibwns - wedi'u torri'n fân
pinsied o halen a siwgr
sudd 1 leim
DULL
Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn wok mawr a choginio'r cyw iâr. Ychwanegwch yr wy a'i gymysgu yn y wok nes mae wedi coginio. Ychwanegwch y garlleg, chilli a madarch, eu coginio am funud yna ychwanegu'r chilli sych, goriander, beansprouts, nwdls, saws pysgod a saws wystrys. I orffen, ychwanegwch y siwgr, halen, sudd leim a shibwns, eu cymysgu a'i weini'n syth.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY