dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
EOG Y MAWDDACH

EOG Y MAWDDACH

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

4 stecen o eog
25g o fenyn
Gwydraid o win gwyn (cymedrol sych)
Halen
Pupur


SAWS

25g menyn
250ml stoc pysgod
1 llwy fwrdd berwr (rocket) – wedi ei dorri’n fras
1 corbwmpen – wedi ei sleisio’n fân gyda pliciwr tatws
50ml hufen wedi’i guro
DULL
Sesno’r eog gyda’r pupur a halen.

Toddi’r menyn mewn padell ffrio cyn ychwanegu’r pysgodyn a’i goginio am 2 funud pob ochr.

Ychwanegu’r gwin a’i goginio am 2 funud arall.

Tynnu’r pysgodyn o’r badell a’i orffwys.


Y SAWS

Arllwys y stoc i sosban a’i leihau i hanner y maint.

Rhoi’r hufen a’r menyn i fewn a’i adael i ferwi’n isel.

Ychwanegu’r berwr a’r corbwmpen a choginio’r cyfan am 2 funud.

Ei weini - rhoi’r eog ar blât ac arllwys y saws dros y cyfan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY