dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CACENNAU CRANC HEGLOG CEIBWR

CACENNAU CRANC HEGLOG CEIBWR

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 6/8

CYNHWYSION

500g cig cranc heglog
75g briwsion bara - wedi eu tostio
50g cnau almwnd - wedi eu malu’n fân a’u tostio’n ysgafn
2 llwy ffwrdd persli ffres
6 ffa Ffrenig - wedi ei dorri’n fân
Halen
Pupur
2 winwnsyn - wedi eu torri’n fân a’u ffrio

SAWS

4 llwy fwrdd mayonnaise
1 melynwy
½ llwy de powdwr cayenne
1 llwy de paprika
1 lemwn – croen a ½ sudd
Pupur

Olew cneuen daear
DULL
Cymysgu’r cig cranc, y briwsion bara, cnau, persli, ffa ffrenig, halen, pupur a’r winwns mewn powlen.

Mewn powlen arall cymysgu’r mayonnaise, melynwy, pupur cayenne, paprika, croen a sudd y lemwn a’r pupur du. Curo’r cyfan yn dda cyn ei arllwys i fewn i gymysgedd y cranc.

Siapio yn gacennau 2-3 modfedd mewn diamedr.

Cynhesu 2-3 llwy fwrdd o’r olew cneuen daear.

Ffrio’r cacennau cranc yn yr olew am rhyw 4-5 munud nes iddynt droi’n liw euraidd.

Gweini gyda darn o lemwn ffres.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY