DULL
Rhoi’r blawd ar blât ac ychwanegu’r pupur a halen. Dipio’r ffiledi i’r blawd.
Toddi’r menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu’r pysgod a’u coginio am 2 funud pob ochr.
Ychwanegu’r sialots, pupur coch, garlleg a’r chilli a’u coginio am 3 munud nes yn feddal.
Ychwanegu’r gorgimychiaid, croen y leim, gwin gwyn a berwi’r cyfan yn isel am funud.
Gweini ar blât gyda’r coriander a’r shibwns.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley