DULL
Cynhesu’r ffwrn i wres 180 gradd selsiws, 360 Fahrenheit, gas 4
Iro dysgyl sy’n addas i’r popty gyda ychydig o’r menyn.
Toddi 100g o’r menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu’r winwns nes yn feddal ag yn troi’n liw euraidd.
Mewn powlen, cymysgu’r briwision bara a’r cnau.
Gosod hanner y winwns ar waelod y ddysgyl ac yna dyrnied o’r briwision bara a’r cnau.
Rhoi haenen o afal ar ben y winwns a’r brwision ac yna gosod y sgadan ar ben y cyfan.
Pinsied o bupur a halen ar y pysgod.
Gosod hanner arall y winwns ar ben y cyfan, yna’r afal cyn coroni’r cyfan gyda gweddill y briwision bara a cnau.
Torri gweddill y menyn (50g) yn giwbiau bychain a’u gosod ar ben y cyfan.
Pobi yn y ffwrn am 20-25 munud nes yn grimp.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley