dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CEGDDU ‘EN PAPILLOT’

CEGDDU ‘EN PAPILLOT’

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

2 x 226g ffiled cegddu
Halen
Pupur
12 tomato bach (wedi eu hanneru a’u rhostio yn y ffwrn am 30 munud)
Teim ffres
Basil ffres

SALSA

½ pupur coch –tynnu’r hadau, ei giwbio’n fân a’u rhostio
½ pupur melyn – tynnu’r hadau, ei giwbio’n fân a’u rhostio
½ lemon - croen
DULL
I greu un parsel:

Cynhesu’r ffwrn i wres 200 gradd selsiws, 400 Fahrenheit, gas 6.

Rhoi darn 12modfedd sgwar o bapur menyn ar fwrdd a rhoi hanner y tomatos a sbrigyn o teim yn y canol.

Gosod un ffiled o’r cegddu ar ei ben a’u sesno.

Rhoi 3 deilen basil ar ben y cyfan a cau y papur menyn fel parsel o amgylch y cyfan.

Rhostio’r cyfan yn y ffwrn am 10 munud.


Gosod y salsa ar blat gyda’r tomatos ar cegddu.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY