dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
GORGIMYCHIAD PENFRO MEWN MÊL GYDA HADAU SESAME

GORGIMYCHIAD PENFRO MEWN MÊL GYDA HADAU SESAME

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 2

CYNHWYSION

10 – 12 gorgymychiaid – tynnu’r croen a’r wythien
1 winwynsyn coch – wedi’i dorri’n fân
1 ewyn o arlleg – wedi’i dorri’n fân
1 chili – tynnu’r hadau a’i sleisio
1 modfedd o sinsir ffres – tynnu’r croen a’i dorri’n fân
1 leim – sudd yn unig
1 llwy fwrdd mêl
1 llwy fwrdd saws soi
2 llwy de hadau sesame
Cwarteru lemwn neu leim - addurniadau
DULL
Ffrio’r winwynsyn, garlleg, chilli a’r sinsir mewn ffreipan neu wok am 5 munud.

Ychwanegu’r gogrymychiaid i’r ffreipan, gorchuddio gyda caead a’u coginio am
2-3 munud neu hyd nes iddynt droi’n liw pinc.

Sleisio’r leim yn hanner a gwasgu’r sudd i mewn i’r ffreipan.

Gorchuddio’r cyfan gyda’r mêl a’i gymysgu’n dda, cyn ychwanegu’r saws soi a’r hadau sesame.

I’w weini gyda’r cwarteru lemwn neu leim.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY