DULL
SALSA
Cymysgu y mango, pupur coch, tomatos a’r winwynsyn gyda’u gilydd.
Ychwanegu’r siwgr, chili, finag, olew, croen a sudd y leim i’r gymysgedd a’i adael i o sefyll am 30 munud.
PYSGODYN
Gosod y pysgod ar fwrdd a’u torri yn eu hanner ar eu hyd . Rhoi llwyed o’r salsa ar gynffon y filed gyda phinsiad o halen a phupur a’u rholio yn daclus.
Rhoi y pysgod ar ddarn o haenen lynu a’u rholio’n dyn gan selio’r ochrau i greu siap cracyr.
Hanner llenwi padell ddofn gyda dŵr berw a gosod y parseli bach yn ofalus yn y badell.
Gorchuddio’r badell gyda caead a’u coginio am 5-6 munud.
Gosod y pysgod ar fwrdd paratoi, tynnu yr haenen lynu yn ofalus a rhoi y parseli o bysgod ar blat gyda darnau o goriander.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley