dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CARPACCIO CIG EIDION PWLLDERI

CARPACCIO CIG EIDION PWLLDERI

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

1.25kg (2½ lb) darn canol o ffiled o chig eidion
2 llwy de peppercorns du wedi malu
1 llwy fwrdd hadau corriander
1 llwy fwrdd halen Môn
1 llwy fwrdd olew

DRESIN
2 oren - sudd yn unig
2 llwy fwrdd fineg gwin gwyn
6 llwy fwrdd olew olewydd
1 llwy de mwstard cyflawn (wholegrain mustard)
100g darn o gaws parmesan

SALAD
1 bag o ddail sbigoglis ifanc
1 winiwnsyn coch wedi sleisio’n fân
1 llwy fwrdd chives ffres, wedi dorri’n fân
1 llwy fwrdd o ddail taragon, wedi dorri’n fân
DULL
Malu’r corriander a’r peppercorns, yna’u gwasgaru ar fwrdd torri - gwasgaru halen Môn dros y cyfan yna rolio’r cig yn y gymysgedd i orchuddio’r cig i gyd.

Cynhesu’r olew mewn padell ffrio a selio’r cig ar bob ochr am 5–6 munud nes yn frown. Rhoi’r cig ar blât i sefyll.

Mewn powlen, curo’r fineg, sudd oren, olew yr olewydd a’r mwstard gyda’u gilydd.

Gwasgaru’r sbigoglys, perlysiau a’r winiwns coch ar blât mawr.

Arllwys y dresin dros y salad, yna torri’r cig yn sleisus tenau a’u gosod ar ben y salad.

Ei addurno gyda tafelli tenau o gaws Parmesan.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY