DULL
Rhoi’r dŵr mewn padell bysgod a’i ferwi’n isel.
Gosod y sewin yn y dŵr a’i goginio am 15-18 munud.
Diffodd y gwres, codi’r sewin o’r dŵr a’i gadw’n gynnes.
Ffrio’r cig moch tan yn grimp yna ffrio’r tatws gyda’r cig moch tan iddynt droi’n euraidd. Rhoi’r mêl dros y cyfan a gadael iddo garameleiddio cyn ychwanegu’r fineg, cennin syfi a’r winwynsyn coch a’i ffrio am 2 funud.
Rhwygo’r letysen a gosod y dail mewn powlen, ychwanegu’r tatws a’r cig moch, ac arllwys y fineg dros y cyfan a’u gymysgu’n dda.
I'w weini – tynnu’r croen oddi ar y sewin a’i osod ar blât mawr a gwasgaru’r dail o amgylch y pysgodyn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley