dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
LLEDEN DDU MEWN SAWS TAI

LLEDEN DDU MEWN SAWS TAI

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

2 llwy fwrdd olew sesame
1 winwynsyn – wedi’i dorri’n fân
6 ewin o arlleg – wedi’i malu
Darn 1½ modfedd o sinsir ffres – wedi’i malu
2 chili gwyrdd poeth – tynnu’r hadau a’u torri’n fân
½ llwy de tyrmerig
14 fl oz llaeth cneuen goco
4 codau cardamom gwyrdd
4 clôf
5 – 6 dail cyri
Darn ¾ modfedd o ffon sinamon
2 llwy fwrdd coriander ffres – wedi’i dorri
4 lleden ddu – wedi’u ffiledu
1 ciwb stoc pysgod – dim dŵr
1 croen a sudd leim
Pinsiad o halen
DULL
Cynhesu’r olew mewn padell ffrio neu wok mawr, ychwanegu’r winwnsyn a’i ffrio nes iddynt feddalu, Os oes angen mwy o olew, nawr yw’r amser i ychwanegu 1 llwy fwrdd.

Ychwanegu’r garlleg a’r sinsir a’u ffrio heb eu brownio am 2 funud.

Ychwanegu’r halen, cardamom, clofau, dail cyri a’r sinamon a’r chili gwyrdd.

Ychwanegu’r sudd leim, tyrmerig a’r llaeth cneuen coco a dod â’r cyfan i’r berw gan droi’n rheolaidd, nes i’r gymysgedd dewhau ychydig, yna ychwanegu’r coriander a’i ferwi'n isel am 2 funud arall.

Rhoi y stoc pysgod yn gyfan yn y wok gyda’r ffiledu o leden ddu, rhoi’r caead ar ben y wok a’u coginio am 6-8 munud, dibynnu ar eu maint. Tynnu o’r gwres a’i adael am 5 munud (bydd y pysgod yn parhau i goginio yng ngwres y cyri).

I’w weini gyda reis o’ch dewis.

* Tip - os mae’r cyri yn rhy speislyd, ychwanegwch pinsiad o siwgr


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY