dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
STIW CWNINGEN GLANYFFERI gan Jean Griffiths

STIW CWNINGEN GLANYFFERI gan Jean Griffiths

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1½-2lb cig cwningen
1 cennin mawr
2 llwy fwrdd olew
2 peint stoc cyw iâr
2-3 moron
1 swejen (fach)
4 tatws
1 bouquet garni
DULL
Rhoi’r olew mewn padell neu ‘wok’ a ffrio’r cig cwningen am 5 munud.

Ychwanegu’r cennin a’i ffrio am 2 funud.

Arllwys y stoc i’r badell yna ychwanegu’r moron a’r tatws a’i gymysgu’n dda.

Gosod y bouquet garni yn y badell a’i adael i ferwi’n isel am 5 munud.

Trosglwyddo’r cymysgedd i ddysgl sy’n addas i’r popty, rhoi caead ar ei ben a’i adael yn y ffwrn am 45 munud ar wres o 350ºC/180ºF/Nwy 4.

Ei weini - gyda llysiau ffres o’ch dewis.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY