dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BISQUE CRANC

BISQUE CRANC

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 6

CYNHWYSION

900g o grancod
2oz o fenyn
50g winwns – wedi eu torri
50g moron – wedi eu torri
50g helogen – wedi eu torri
1 deilen bae ffres neu sych
2 llwy fwrdd Cognac
4 tomato
1 llwy de piwre Tomato
90ml gwin gwyn sych
1 brigyn taragon ffres
3 peint stoc pysgod
60ml hufen dwbl
Pinsiad o bupur cayenne
¼ sudd lemwn
Halen
Pupur du
DULL
Rhoi dŵr gyda phinsied dda o halen mewn sospan fawr a’i dod i’r berw. Gosod y crancod yn y dŵr a’u berwi am 2 funud.

Taflu’r dŵr a gosod y crancod nail ochr i oeri am ychydig, yna malu y crancod gyda chyllell siarp neu morthwyl cegin.

Toddi y menyn mewn sospan fawr arall. Ychwanegu’r winwns, moron, helogen a’r ddeilen bae a’u coginio heb frownio. Ychwanegu’r crancod a’r cognac a’u berwi am 2 funud cyn ychwanegu’r tomato, piwre tomato, gwin, taragon a’r stoc. Dod a’r cyfan i’r berw yna ei ferwi’n isel am 30 munud.

Tynnu cragen y crancod o’r sospan yna hylifo’r cawl, fesul tipyn, mewn prosesydd bwyd. Bydd angen prosesu’r gymysgedd am gyfnodau cyflym byr er mwyn torri’r cregyn i ddarnau bach maint gewin bys (nid piwre).

Hidlo’r cawl gan wthio gymaint o’r gymysgedd ag sy’n bosib trwy’r hidlwr gyda cefn llwy fawr. Bydd angen hidlo’r gymysgedd eto trwy hidlwr mân cyn ei arllwys yn ôl i’r sospan i’w ail-berwi.

Dewch i’r berw gan ychwanegu’r hufen, pupur cayenne, sudd lemwn, halen a phupur a lleihau’r cymysgedd ychydig am 2-3 munud.

I’w weini - gyda bara ffres.


GWELD Y RYSEITIAU

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY